Skip to content

Gweithio gyda thirfeddianwyr a meddianwyr

Mae Green GEN Cymru wedi ymrwymo i feithrin perthnasoedd gwaith cryf gyda thirfeddianwyr a meddianwyr wrth i ni ddatblygu ein cynigion ar gyfer Green GEN Tywi Wysg. 

Byddwn yn gweithio gyda chi wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau, ac rydym ni’n eich annog chi a/neu eich cynrychiolwyr i gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Mynediad ar gyfer arolygon

Wrth gynllunio a datblygu ein prosiectau, mae angen i ni gynnal arolygon er mwyn helpu i lywio dyluniad y cynllun, yn ogystal â’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.

Mae angen i ni arolygu ardal eang er mwyn sicrhau ein bod yn deall yr amgylchedd lleol, sut gallai ein gwaith effeithio arno ac ystyried unrhyw fesurau lliniaru sy’n ofynnol. Bydd canlyniadau’r arolygon yn helpu i lywio penderfyniadau ar lwybro a lleoliad prosiect Green GEN Tywi Wysg. Mae angen cynnal rhai arolygon, fel arolygon adar neu ystlumod, ar adegau penodol o’r flwyddyn i ddarparu gwybodaeth am nythu neu ddefnyddio cynefinoedd.

Byddwn yn gweithio’n agos gyda thirfeddianwyr a meddianwyr er mwyn cytuno ar fynediad fel bod arolygon yn cael eu cynnal - lle bynnag y bo modd - ar adegau priodol gyda chyn lleied â phosibl o anghyfleustra.

Nid yw caniatáu mynediad Green GEN Cymru i dir ar gyfer arolygon yn atal tirfeddianwyr rhag cymryd rhan yn yr ymgynghoriad a rhoi sylwadau am brosiect Green GEN Tywi Wysg ar unrhyw adeg.

Bydd Bruton Knowles, ein hasiant tir, yn parhau i geisio cael cytundebau gwirfoddol gyda thirfeddianwyr a meddianwyr at ddiben mynediad, ond os na ellir gwneud hynny efallai y bydd angen i ni geisio cael pwerau cyfreithiol perthnasol.

Taflen wybodaeth arolygon amgylcheddol a pheirianegol (PDF, 0.6MB)

Taflen wybodaeth taliadau seilwaith trydanol newydd i dirfeddianwyr (PDF, 1.1MB)

Cadw mewn cysylltiad

Os ydych chi’n dirfeddiannwr ac eisiau rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy’r dulliau canlynol:

Rhadffôn: 02920 490310
E-bost: greengentowyusk@brutonknowles.co.uk