ARCHWILIWCH Y MAP RHYNGWEITHIOL
Defnyddiwch y map rhyngweithiol isod i archwilio'r Aliniad Llwybr Drafft – Hydref 2026 a'r newidiadau arfaethedig i Brosiect Cysylltiad Grid Tywi Wysg. Wrth i chi adolygu'r cynigion, rydym yn eich annog i rannu eich barn drwy'r ffurflen adborth ddigidol, drwy e-bost, drwy lythyr, neu'n bersonol yn un o'n digwyddiadau ymgynghori. Bydd eich sylwadau, eich gwybodaeth leol a'ch awgrymiadau yn helpu i lywio datblygiad parhaus y Prosiect.
Defnyddio'r map
> Chwilio yn ôl lleoliad
Cliciwch ar yr eicon chwilio a nodwch eich cod post i ddod o hyd i'ch lleoliad ar y map.
> Cymharu aliniadau llwybr
Dewiswch Aliniad y Llwybr a Ffefrir yn Flaenorol – Gwanwyn 2024 ac Aliniad Llwybr Drafft – Hydref 2026 i gymharu'r ddau aliniad a gweld y newidiadau arfaethedig.
> Llywio'r llwybr
Defnyddiwch y ddewislen gwymplen i symud rhwng Adrannau 1 i 5 ac archwilio gwahanol rannau o'r llwybr arfaethedig.
> Gweld gwybodaeth am y seilwaith
Cliciwch ar leoliadau unigol y polion pren a'r monopolau i weld eu rhif cyfeirio unigryw.
> Darparu adborth sy'n ymwneud â lleoliad penodol
Wrth gyflwyno sylwadau, cyfeiriwch at rifau cyfeirio'r polion pren neu'r monopolau perthnasol lle bo hynny'n bosibl. Mae hyn yn ein helpu i nodi'r lleoliadau rydych yn cyfeirio atynt yn gywir ac yn sicrhau y gellir ystyried eich adborth yn llawn yn y cyd-destun priodol.
YN BAROD I RANNU EICH BARN? Llenwch y ffurflen adborth ar-lein.
CADWCH MEWN CYSYLLTIAD
Diolch am eich amynedd parhaus a'ch ymgysylltiad.
Os hoffech dderbyn diweddariadau am y Prosiect, os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cynigion, neu os hoffech drafod y Prosiect ymhellach, cysylltwch â thîm y Prosiect neu cofrestrwch eich manylion gyda ni:
E-bost: info@greengentowyusk.com
Rhif ffôn am ddim: 0800 3777 339
I ddychwelyd i wefan Prosiect Cysylltiad Tywi Wysg, cliciwch yma.