Mae gan Bute Energy weledigaeth o Gymru iachach a chyfoethocach sy’n defnyddio cynhyrchu ynni fel pŵer cadarnhaol i bawb – i’r genhedlaeth hon ac i genedlaethau’r dyfodol.
Mae Bute Energy wedi ymrwymo i dalu £7,500 am bob megawat a osodir ar yr holl barciau ynni y mae’n eu datblygu drwy Gronfa Buddsoddi Cymunedol sy’n cael ei llywodraethu’n annibynnol. Bydd y gronfa o fudd nid yn unig i bobl leol sy’n byw yn agos at y safleoedd parc ynni, ond i bobl ar hyd llwybr cysylltiadau’r grid hefyd.
Bydd Green GEN Tywi Wysg yn cysylltu Parciau Ynni Nant Mithil, Aberedw, a Bryn Gilwern â’r grid cenedlaethol. Os caiff y parciau ynni arfaethedig hyn eu cymeradwyo, bydd cymunedau ar hyd cysylltiad arfaethedig Tywi Wysg yn gymwys i wneud cais i Gronfa Buddsoddi Ynni Bute sydd â gwerth rhagamcanol o tua 2.5 miliwn y flwyddyn.
Er mwyn sicrhau bod y gronfa hon yn cael yr effaith fwyaf ac yn galluogi prosiectau gwaddol aml-flwyddyn ar raddfa fawr, mae Bute Energy wedi sefydlu Tîm Buddsoddi Cymunedol sy’n gyfrifol yn unig am ymgysylltu a gweithio gydag unigolion, elusennau a grwpiau yn yr ardaloedd cyfagos at ei safleoedd. Mae’r tîm yn cynnwys staff sy’n canolbwyntio ar themâu amrywiol, gan gynnwys Hamdden ac Iechyd, yr Amgylchedd Naturiol a Threftadaeth Ddiwylliannol, Addysg, Symudedd Cymdeithasol a Hyfforddiant, mynd i’r afael â’r argyfwng Costau Byw a Mapio Cymdeithasol.
Gan gydnabod bod pob cymuned yn unigryw, mae’r Tîm Buddsoddi Cymunedol yn siarad â thrigolion ac yn defnyddio data ac ymchwil barhaus i fapio anghenion cymunedau yn fanwl, gan nodi’r heriau mwyaf i dargedu a blaenoriaethu’r ymgysylltu a allai arwain at y manteision mwyaf effeithiol. Drwy adborth o’r rownd gyntaf o ymgynghori, ymgysylltu â phobl leol ac ymchwil gymdeithasol helaeth, y 5 prif her sy’n seiliedig ar leoedd a nodwyd ar hyd llwybr Tywi Wysg yw:
- Bywyd a Chydnerthedd Cymunedol
- Amaethyddiaeth
- Mynediad at seilwaith trafnidiaeth a thrafnidiaeth
- Cefnogi busnesau lleol, microfusnesau a sefydliadau
- Unigedd ac arwahanu
Mae Tîm Buddsoddi Cymunedol Bute Energy wedi ymrwymo i sicrhau bod cymunedau’n cael eu paratoi o’r diwrnod cyntaf i ddefnyddio’r gronfa a fydd yn weithredol ar ôl cwblhau’r Parciau Ynni a ddisgwylir yn 2028. Maent eisoes yn cwrdd, yn cydweithio ac yn gweithio gydag ystod eang o grwpiau a rhanddeiliaid, o ysgolion, timau chwaraeon a grwpiau trafnidiaeth lleol i sefydliadau cenedlaethol sy’n ymwneud ag iechyd, diwylliant, yr amgylchedd a materion gwledig. Mae’r Tîm Buddsoddi Cymunedol yn croesawu ymgysylltiad gan grwpiau a sefydliadau ar hyd a lled llwybr cysylltu Tywi Wysg.
Ydych chi’n gwybod am unrhyw grwpiau, sefydliadau neu fentrau lle gall Bute Energy gynnig rhywfaint o gymorth? Os oes gennych chi unrhyw syniadau am sut a ble hoffech chi weld yr arian yn cael ei fuddsoddi a’i ddefnyddio ar ôl i’r Parciau Ynni ddod i rym, hoffem glywed eich barn.
Manteision ehangach
Yn ogystal â Chronfa Buddsoddi Cymunedol benodol, mae Bute Energy a Green GEN Cymru wedi ymrwymo i fanteisio i’r eithaf ar werth cymdeithasol eu cynigion, drwy sicrhau bod unrhyw bartneriaid dan gontract yn canolbwyntio ar fuddsoddi swyddi, amser, adnoddau ac arian yn y cymunedau sy’n agos at ein prosiectau. Mae hyn yn cynnwys annog recriwtio staff yng Nghymru, gwirfoddoli lleol a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd cadwyn gyflenwi yn yr ardaloedd lle rydym yn gweithio.
Ble hoffech chi i’r arian gael ei fuddsoddi? A oes unrhyw grwpiau, sefydliadau neu fentrau y gallwn gynnig rhywfaint o gymorth iddynt?