Trosolwg o’r ymgynghoriad
Mae ein hail ymgynghoriad anstatudol ar y cynigion ar gyfer Green GEN Tywi Wysg (a gynhaliwyd rhwng 13 Mawrth ac 8 Mai 2024) wedi dod i ben.
Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ac a roddodd adborth.
Er bod yr ymgynghoriad wedi dod i ben, bydd tîm y prosiect yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid a thirfeddianwyr wrth i’r prosiect ddatblygu.
Roedd ein hail ymgynghoriad anstatudol yn gofyn am adborth ar linelliad drafft y llwybr, gan gynnwys lleoliadau arfaethedig polion pren, peilonau, ceblau o dan y ddaear, a mathau eraill o seilwaith, ynghyd ag unrhyw ffactorau eraill rydych chi’n awyddus i ni eu hystyried.
Y camau nesaf
Mae cyfraniad y gymuned yn amhrisiadwy wrth lunio dyfodol y prosiect hwn.
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn adolygu’r holl adborth rydym wedi'i gael gan bobl leol, awdurdodau lleol, cynghorau cymuned a sefydliadau cenedlaethol i’n helpu ni i ddatblygu dyluniad terfynol ar gyfer y prosiect. Byddwn hefyd yn cynnal rhagor o asesiadau ac arolygon technegol ac amgylcheddol.
Bydd rownd arall o ymgynghori lle bydd pobl yn gallu adolygu’r dyluniadau manwl a’r Datganiad Amgylcheddol drafft a rhoi sylwadau arnynt, cyn i ni gyflwyno cais am gydsyniad; disgwylir y bydd hyn yn digwydd yn 2025.