Beth mae’r prosiect yn ei olygu?
Mae cynnig Green GEN Tywi Wysg ar gyfer llinell uwchben cylched dwbl 132kV (132,000 folt), a gefnogir ar beilonau dur, rhwng is-orsaf ar Barc Ynni Nant Mithil yn ardal Fforest Maesyfed ac is-orsaf newydd ar linell drawsyrru 400kV (400,000 folt) bresennol y National Grid ger Llandyfaelog, rhwng Caerfyrddin a Phont Abraham.
Wrth lunio ein cynlluniau, gwnaethom gymharu goblygiadau amgylcheddol, technegol a chost 11 opsiwn cysylltu posibl. Yn dilyn y gwaith hwn, pennwyd y byddai cysylltu Parc Ynni Nant Mithil â’r grid cenedlaethol yn ardal Caerfyrddin yn debygol o fod yr ateb mwyaf priodol i fwrw ymlaen ag ef ar gyfer astudiaethau llwybro ac ymgynghori manylach.
Pam mae angen y prosiect hwn?
Bydd Green GEN Tywi Wysg yn cysylltu Parc Ynni Nant Mithil Bute Energy, a fydd yn cynhyrchu tua 237MW (megawat) o ynni gwyrdd glân yn ardal Fforest Maesyfed, â’r grid cenedlaethol. Bydd yn dod ag ynni gwyrdd glân i’r cartrefi a’r busnesau sydd ei angen. Yn bwysig iawn, bydd prosiectau ynni gwyrdd eraill hefyd yn gallu cysylltu, gan leihau faint o seilwaith ychwanegol fydd ei angen yn y dyfodol.
Bydd Green GEN Tywi Wysg hefyd yn caniatáu cysylltu prosiectau cymunedol yn uniongyrchol, gan leihau’r pwysau ar y grid trydan presennol, cefnogi cadernid ynni, busnesau gwyrdd a galluogi gwres gwyrdd a chyflwyno cerbydau trydan ledled Cymru – yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Sut fydd Green GEN Tywi Wysg yn edrych?
Bydd y llinell uwchben 132kV newydd yn cael ei chludo ar beilonau dellt dur. Mae angen i ni ddefnyddio peilonau dur oherwydd bydd dwy gylched (tair set o wifrau ar ddwy ochr y peilonau), sy’n cludo mwy o bŵer nag y gellir ei gludo’n ddiogel ar un llinell o bolion pren. Bydd gan bob peilon dair braich ar bob ochr, a bydd gan bob braich set o wifrau – a elwir yn ddargludyddion.
Uchder safonol peilon 132kv yw 27m. Mae’r pellter cyfartalog rhwng peilonau, neu ‘hyd rhychwant’, oddeutu 250m. Mae modd cynyddu neu leihau union uchder y peilonau a’r hydoedd yn dibynnu ar y tir maen nhw’n ei groesi, neu rwystrau fel nentydd ac afonydd.
Parc ynni Nant Mithil
Mae Parc Ynni Nant Mithil yn ym Mhowys, Canolbarth Cymru, tua 9 cilomedr i’r dwyrain o Landrindod yn Fforest Glud. Mae’r Parc Ynni yn cynrychioli cyfle i ddarparu ynni glân ac adnewyddadwy, gan ddefnyddio’r tyrbin gwynt diweddaraf a thechnoleg arall, er budd y gymuned leol, yr amgylchedd a chymdeithas yn gyffredinol.
Mae Nant Mithil wedi ei leoli mewn ardal sydd ag adnodd gwynt ardderchog y gellir ei harneisio i ddod â buddion o ran taclo newid hinsawdd a dod â buddsoddiad i gymunedau lleol.
Y llwybr sy’n cael ei ffafrio gennym
Gan weithio gyda’n hymgynghorwyr amgylcheddol, gwnaethom nodi coridorau o dir y gellid eu defnyddio i osod llwybr llinell uwchben, gan edrych ar sut y gallai pob un effeithio ar gymunedau lleol, y dirwedd, golygfeydd lleol, bioamrywiaeth, coedwigaeth a threftadaeth ddiwylliannol, perygl llifogydd a defnyddiau tir eraill.
Yna dewiswyd coridor sy’n cael ei ffafrio gennym ar gyfer Green GEN Tywi Wysg a nodi opsiynau llwybr posibl oddi mewn iddo. Yn dilyn rhagor o ymchwil, rydyn ni wedi dewis llwybr sy’n cael ei ffafrio yn y coridor hwnnw ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae’r llwybr sy’n cael ei ffafrio gennym yn osgoi ac yn ceisio lleihau’r effeithiau posibl ar Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a thirweddau sensitif eraill, ac mae angen cyn lleied â phosibl o seilwaith newydd.
Credwn fod y llwybr hwn yn sicrhau’r cydbwysedd gorau rhwng ein gofynion technegol ac yn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd a’r bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn mwynhau treulio eu hamser yn yr ardal.
Gwyddom y gall seilwaith newydd amharu ar gymunedau. Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i darfu cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd a’r rheini sy’n byw, yn gweithio ac yn mwynhau gweithgareddau hamdden yn agos at ein cynigion.
Mae rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni wedi nodi’r llwybr rydyn ni’n ei ffafrio, a’r opsiynau eraill roedden ni wedi’u hystyried ar gael yn ein Dogfen Llwybro ac Ymgynghori a’n Hadroddiad Strategaeth Cysylltiad Grid.