Skip to content

Cwestiynau Cyffredin

Yma gallwch ddod o hyd i atebion i rai o'r cwestiynau a ofynnir amlaf am brosiect Green GEN Towy Usk.

A. Mae Green Generation Energy Networks Cymru (Green GEN Cymru) wedi'i leoli yng Nghymru ac mae'n datblygu rhwydweithiau ynni gwyrdd yng Nghymru i ddiwallu anghenion pobl, cymunedau a busnesau Cymru yn y dyfodol.

Bydd Green GEN Cymru yn dylunio, yn adeiladu ac yn gweithredu rhwydwaith dosbarthu 132kV newydd sydd ei angen i gysylltu prosiectau ynni adnewyddadwy newydd yng Nghymru â'r rhwydwaith trawsyrru trydan, gan helpu i sicrhau ynni gwyrdd i gartrefi a busnesau ledled Cymru a thu hwnt.

Gall ein rhwydwaith grid gwyrdd ddarparu ateb rhwydwaith rhanbarthol ar gyfer De a Chanolbarth Cymru. Bydd generaduron ynni adnewyddadwy yn gallu gwneud cais i gysylltu â'r rhwydwaith, gan leihau'r angen am fwy o seilwaith yn y dyfodol. Mae ganddo hefyd y potensial i gefnogi technolegau fel 5G a allai helpu ffermwyr, ysgolion a busnesau i fod ar flaen y gad ym maes technoleg, er eu bod wedi'u lleoli mewn ardal wledig. Gallai'r cysylltiad arwain at botensial ar gyfer buddsoddiad busnes yn yr ardal a chefnogi creu swyddi a sgiliau a'r newid o danwydd ffosil i ynni adnewyddadwy ar gyfer gwresogi cartrefi a cherbydau trydan.

Byddwn yn gweithio'n agos gyda chymunedau a rhanddeiliaid yng Nghymru wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau, er mwyn manteisio i'r eithaf ar y buddion a lleihau'r effeithiau i bobl leol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Green GEN Cymru www.greengencymru.com.

Mae Green GEN Tywi Wysg yn cynnig cysylltiad 132kV newydd, tua 97 cilomedr o hyd rhwng Parc Ynni Nant Mithil ym Mhowys ac is-orsaf newydd, i'w datblygu gan y National Grid, ar y llinell trawsyrru 400kV (400,000-folt) bresennol ger Llandyfaelog, yn Sir Gaerfyrddin.

Ein cynnig gwreiddiol oedd llinell uwchben cylched dwbl, wedi'i chario ar beilonau dur, ar hyd y llwybr cyfan. Yn dilyn adborth a gafwyd yn ein rownd gyntaf o ymgynghori yng ngwanwyn 2023, ynghyd ag asesiadau technegol ac amgylcheddol pellach, rydym wedi diwygio ein cynlluniau.

Bydd Green GEN Tywi Wysg yn cysylltu Parc Ynni Nant Mithil Bute Energy, a fydd yn cynhyrchu ynni gwyrdd, glân yn ardal Fforest Maesyfed, â'r grid cenedlaethol.

Bydd prosiectau ynni gwyrdd eraill, gan gynnwys Parciau Ynni arfaethedig Bute Energy Aberedw a Bryn Gilwern, hefyd yn gallu cysylltu â llinell arfaethedig Green GEN Tywi Wysg, gan leihau faint o seilwaith ychwanegol fydd ei angen yn y dyfodol. Rhagwelir y bydd y ddau barc ynni yn defnyddio llinellau uwchben cylched sengl sy'n cael eu cynnal ar bolion pren i gysylltu â Green GEN Tywi Wysg.

Gallai portffolio Bute Energy o ffermydd gwynt ar y tir, prosiectau solar ffotofoltäig a systemau storio ynni batri sydd wedi'u cydleoli fod â chapasiti wedi'i osod o fwy na 3GW erbyn 2030, gan wneud cyfraniad sylweddol tuag at gyrraedd targedau ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru ac amcanion carbon sero net Llywodraeth y DU.

I gael rhagor o wybodaeth am y parciau ynni a gynigir gan Bute Energy, ewch i'w gwefan www.bute.energy.

Yn dilyn rownd gyntaf yr ymgynghoriad yn ystod gwanwyn 2023, fe wnaethom ailedrych ar y llwybr a ffafrir gennym o safbwynt amgylcheddol, technegol ac economaidd i weld a allem wneud newidiadau ar sail yr adborth a gafwyd, ein hasesiadau pellach a'n hymweliadau safle ein hunain.

Fe edrychom ar ble gallem wneud newidiadau i'r llwybr, yn ogystal ag adolygu lle gallem newid y dechnoleg a'r seilwaith arfaethedig (er enghraifft, ymhle gallai fod yn fwy priodol defnyddio polion pren neu geblau o dan y ddaear yn hytrach na pheilonau dur). Yn dilyn y gwaith hwn, fe wnaethom nodi llinelliad drafft y llwybr (gan gynnwys safleoedd posibl ar gyfer polion a pheilonau) yn y llwybr a ffefrir a oedd wedi'i adolygu.

Mae llinelliad drafft y llwybr yn ystyried y 2,949 o ymatebion adborth a gawsom gan gymunedau a rhanddeiliaid, ac mae'n cynnwys ystyriaethau yn ymwneud â bioamrywiaeth, y dirwedd a'r golygfeydd, treftadaeth ddiwylliannol, coetiroedd, perygl llifogydd, daeareg a phriddoedd, defnyddiau tir eraill, ac anghenion technegol.

Yn gryno, mae'r newidiadau'n cynnwys:

· llinell uwchben cylched sengl sy'n cael ei chynnal ar bolion pren rhwng Parc Ynni Nant Mithil a gorsaf newid newydd wrth droed Bryn Aberedw;

· darn o gebl o dan y ddaear lle mae'r llwybr yn croesi Afon Tywi ger Llanarthne, a;

· rhai newidiadau i'r llwybr mewn mannau eraill.

Ceir crynodeb isod o'r newidiadau a wnaed ym mhob rhan o'r llwybr.

Newidiadau yn Adran 1: Parc Ynni Nant Mithil i Fryn Aberedw

Yn dilyn asesiadau, penderfynwyd bod modd cynnal y rhan rhwng Parc Ynni Nant Mithil a Bryn Aberedw ar bolion pren, sy'n golygu nad oes angen peilonau dur ar y rhan hon o'r llwybr.

Gall yr orsaf newid hefyd ddarparu ynni o Barciau Ynni arfaethedig Aberedw a Bryn Gilwern, sydd ar gam cynharach yn eu datblygiad. Byddai'r rhain hefyd yn gallu cysylltu â'r orsaf newid gan ddefnyddio cylchedau 132kV sengl, sy'n debygol o gael eu cynnal ar bolion pren.

Byddai lleoli'r orsaf newid ar droed Bryn Aberedw yn caniatáu i'r tri pharc ynni arfaethedig gysylltu ar yr un pwynt, gan leihau'r angen am seilwaith ychwanegol a fyddai wedi bod yn angenrheidiol pe baent yn cysylltu â'r rhwydwaith mewn gwahanol leoedd.

Mae'r llwybr arfaethedig wedi cael ei symud ymhellach i ffwrdd oddi wrth Bontffranc nag a gynigiwyd yn wreiddiol, fel bod mwy o bellter o'r pentref.

Newidiadau yn Adran 2: Bryn Aberedw i Langamarch

Newidiadau i'r llwybr arfaethedig i leihau'r effeithiau posibl ar goetir hynafol, eiddo preswyl, a chynefinoedd blaenoriaeth; ac effeithiau tirwedd a gweledol lle mae Afon Gwy yn cael ei chroesi.

Newidiadau yn Adran 3: Llangamarch i Lanymddyfri

Newidiadau i'r llwybr arfaethedig i leihau'r effeithiau gweledol yng Nghefn-gorwydd; a chyflwyno dau opsiwn llwybr posibl yn ardal Coedwig Crychan (opsiynau A a B) , gan roi'r potensial i leihau'r effeithiau posibl ar goetir masnachol.

Newidiadau yn Adran 4: Llanymddyfri i Landeilo

Drwy ddilyn llwybr i'r gogledd o Afon Tywi, rydym wedi gallu lleihau'r effeithiau posibl ar Ddyffryn Tywi a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn ogystal ag effeithiau gweledol yn Llanymddyfri a Felindre a'r cyffiniau, ac effeithiau gweledol a threftadaeth yn Llangadog.

Newidiadau yn Adran 5: Llandeilo i Landyfaelog

Defnyddio ceblau tanddaearol yn hytrach na llinellau uwchben lle mae llinelliad drafft y llwybr yn croesi Dyffryn Tywi. Ar ddiwedd Adran 5, mae'r llwybr arfaethedig wedi cael ei symud ymhellach i'r dwyrain i osgoi'r llinell 132kV bresennol a'r eiddo preswyl, ac i adlewyrchu'r lleoliad arfaethedig ar gyfer is-orsaf y National Grid.

Bydd y llinell uwchben yn adran 1 y llwybr yn cael ei chynnal ar bolion pren.

Fel arfer, mae’r polion H hyn 12.8 metr o uchder a 127 metr ar wahân. Mae enghreifftiau o’r rhain i’w gweld isod.

Bydd union uchder y polion pren a’r pellteroedd rhyngddynt yn dibynnu ar amodau’r tir, topograffeg neu lle mae angen i’r cysylltiad groesi ffyrdd neu reilffyrdd lle gallai fod angen polion talach i allu clirio yn ôl yr angen.

Yn dilyn adborth a gafwyd yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad, a’n hastudiaethau technegol ac amgylcheddol pellach ein hunain, rydym nawr yn cynnig defnyddio ceblau o dan y ddaear yn hytrach na llinellau uwchben lle mae llinelliad drafft y llwybr yn croesi Afon Tywi yn Adran 5 y llwybr, tua 5.5 cilometr o hyd.

Wrth ddod i’r penderfyniad hwn, roeddem wedi ystyried sut gallai llinell uwchben effeithio’n sylweddol ar dirwedd a golygfeydd o’r ardal tirwedd arbennig, yn enwedig o amgylch Tŵr Paxton a Chastell Dryslwyn. Rydym hefyd wedi ystyried effeithiau posibl ar adar sy’n bridio a gaeafu ar SoDdGA Afon Tywi a gorlifdir ehangach Afon Tywi, gan gynnwys gwyddau, elyrch, hwyaid, gwylanod, ac adar hirgoes.

Byddai defnyddio ceblau tanddaearol i groesi’r ardal arbennig o sensitif hon yn lleihau’r posibilrwydd o effeithiau ar y golygfeydd, y dirwedd a’r bywyd gwyllt.

Byddai’r ceblau tanddaearol yn mynd o dan brif ffordd yr A40 ac Afon Tywi ar bwynt lle maent yn agos at ei gilydd, gan ganiatáu i ni darfu cyn lleied â phosibl ar y ffordd a’r afon a chwblhau’r llwybr yn y ffordd fwyaf effeithlon.

Llinellau uwchben foltedd uchel, capasiti uchel yw’r dewis economaidd a dibynadwy profedig ar gyfer trawsyrru trydan mewn swmp ledled y byd.

Mae Green GEN wedi gwneud cais i Ofgem am Drwydded Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu Annibynnol (IDNO) i ganiatáu iddo gludo trydan. Mae gan ddeiliaid trwyddedau IDNO ddyletswyddau dan adran 9 Deddf Trydan 1989 i ddatblygu a chynnal system effeithlon, gydlynol ac economaidd o ddosbarthu trydan, a bydd y broses gynllunio a’r rheoleiddiwr ynni, Ofgem, yn craffu ar hyn. Bydd gan Green GEN Cymru ddyletswydd o dan y drwydded IDNO i sicrhau bod costau’n cael eu lleihau i’r eithaf ac o ganlyniad, bydd angen cydbwyso effeithiau’r cynigion yn ofalus â chostau lliniaru.

Yn dilyn adborth a gafwyd yn y rownd ymgynghori gyntaf yn 2023, rydym nawr yn cynnig croesi Afon Tywi ger Llanarthne yn Adran 5 y prosiect, gan ddefnyddio ceblau o dan y ddaear yn hytrach na llinellau uwchben, er mwyn lleihau’r posibilrwydd o effeithiau ar y golygfeydd a’r dirwedd.

Bydd y llwybr polion pren a gynigir yn Adran 1 y llwybr yn dod i ben mewn gorsaf newid newydd arfaethedig ger yr A481, wrth droed Bryn Aberedw.

Mae gorsaf newid yn debyg o ran ymddangosiad i is-orsaf drydanol. Bydd yr orsaf newid oddeutu 75m x 85m mewn maint i ddarparu ar gyfer yr offer trydanol sydd ei angen. Mae enghraifft o hyn i’w gweld isod.

Hefyd, bydd angen ffyrdd mynediad, ffensys a mesurau amgylcheddol gan gynnwys tirlunio, ar gyfer yr orsaf newid. Mae gan y safle arfaethedig fynediad da o brif ffordd yr A481, mae’n gymharol wastad, ac nid oes ganddo unrhyw ddynodiadau amgylcheddol.

Yn ogystal, yr orsaf newid fydd y man gorffen ar gyfer cysylltiadau o Barciau Ynni arfaethedig Aberedw a Bryn Gilwern. Mae hyn yn caniatáu i ni gysylltu tri Pharc Ynni arfaethedig mewn un lle, mewn lleoliad sydd, yn ein barn ni, yn cael llai o effaith ar yr amgylchedd a chymunedau lleol na safleoedd posibl eraill, a lleihau maint y seilwaith yn gyffredinol.

O’r orsaf newid ger yr A481 ar droed Bryn Aberedw, bydd angen llinell uwchben cylched dwbl 132kV newydd sy’n cael ei chynnal ar beilonau dur i gludo’r ynni ymlaen i ymuno â’r rhwydwaith grid cenedlaethol.

Yr uchder safonol ar gyfer peilon delltog dur i gario llinell uwchben 132kV yw 27 metr fel arfer. Hyd rhychwant cyfartalog (y pellter rhwng peilonau) yw tua 250m. Bydd union uchder a phellter yn dibynnu ar amodau’r tir, topograffeg neu lle mae angen i’r cysylltiad groesi ffyrdd neu reilffyrdd.

Yn yr ail rownd hon o ymgynghori cyhoeddus (dydd Mercher 13 Mawrth i ddydd Mercher 8 Mai 2024), rydym yn gofyn am eich adborth ar y canlynol:

    • Unrhyw ffactorau rydych chi’n meddwl y dylem eu hystyried wrth ddatblygu ein cynigion ar gyfer llinelliad drafft y llwybr, yn cynnwys lleoliadau arfaethedig peilonau, polion pren, ceblau o dan y ddaear a’r orsaf newid.
    • Eich barn ynghylch a ddylem ddewis Opsiwn A neu Opsiwn B ar gyfer llinelliad drafft y llwybr yn ardal Coedwig Crychan (map adran 3).
    • Unrhyw ffactorau nad ydynt, yn eich barn chi, wedi cael eu hystyried yn ein gwaith hyd yma ac a fydd yn ein helpu i nodi unrhyw broblemau posibl a chwblhau ein cynlluniau manwl cyn i ni baratoi ein ceisiadau am gydsyniad.
    • Hoffem wybod hefyd a oes gennych chi syniadau am ardaloedd yn eich cymuned chi a allai elwa o fuddsoddiad drwy gronfa buddsoddi cymunedol Bute Energy.

Lleisiwch eich barn, hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi gwneud sylwadau yn ystod rownd gyntaf yr ymgynghoriad yn 2023.

Mae ein cam ymgynghori ar agor erbyn hyn, a bydd yn rhedeg o ddydd Mercher 13 Mawrth tan ddydd Mercher 8 Mai 2024.

Gallwch weld map rhyngweithiol o linelliad drafft y llwybr, a rhagor o wybodaeth am y cam hwn o’r ymgynghoriad ar ein gwefan. Gallwch weld a lawrlwytho deunyddiau sy’n rhoi rhagor o wybodaeth am ein cynigion ar gyfer cysylltiad Tywi Wysg yn ein llyfrgell Dogfennau www.greengentowyusk.com.

Yn ystod mis Mawrth ac Ebrill, rydym yn cynnal chwe digwyddiad cymunedol ar hyd y llwybr a gynigir er mwyn i gymunedau gael rhagor o wybodaeth am y prosiect a gweld sut rydym wedi diwygio ein cynlluniau a gofyn cwestiynau i dîm ein prosiect. Bydd delweddau cyfrifiadurol o linelliad drafft y llwybr ar gael i’w gweld yn y digwyddiadau.

Mae gwybodaeth am ddigwyddiadau cymunedol i’w gweld isod:

Amserlen y digwyddiad cymunedol
Lleoliad Dyddiad ac amser
Pafiliwn Trefaldwyn
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt LD2 3SY
Dydd Mercher 20 Mawrth
2pm-7pm  
Neuadd Gymunedol Llanarthne  
Llanarthne, Caerfyrddin SA32 8JD
Dydd Iau, 21 Mawrth 
3.30pm-7.30pm 
Neuadd Ddinesig Llandeilo Fawr 
17 Crescent Rd, Llandeilo SA19 6HW
Dydd Sadwrn, 23 Mawrth
11am-4pm 
Canolfan Gymunedol Penybont
Penybont, ger Llandrindod LD1 5UA
Dydd Mawrth 9 Ebrill
2pm-7pm 
Gwesty'r Castell
Heol y Brenin, Llanymddyfri SA20 0AP
Dydd Mercher 10 Ebrill
2pm-7pm
Neuadd Gymunedol Llandyfaelog
Sir Gaerfyrddin SA17 5PA
Dydd Iau 11 Ebrill
2pm-7pm

 

Rydym yn awyddus i ddeall safbwyntiau pobl leol, ac mae adborth manwl gan gymunedau a sefydliadau arbenigol yn rhan allweddol o sut byddwn yn mireinio ein cynigion.

Gall eich gwybodaeth leol ein helpu i ddeall unrhyw effeithiau a manteision posibl nad ydym efallai wedi’u hystyried yn ein gwaith hyd yma, ac i lywio ein gwaith yn y dyfodol.

Mae sawl ffordd y gallwch roi eich adborth neu gysylltu â ni.

www.greengentowyusk.com/cymraeg
0800 3777 339
FREEPOST GREEN GEN TOWY USK
info@greengentowyusk.com

Cyflwynwch eich adborth erbyn 23:59 ar ddydd Mercher 8 Mai 2024. Mae’n bosibl na fydd unrhyw adborth a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael ei ystyried gan ein tîm.

Bydd yr holl adborth a gawn yn cael ei adolygu a’i ystyried yn ofalus wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau.

Mae rhagor o wybodaeth am ein rownd gyntaf o ymgynghori, yr adborth a gawsom a’n hymateb i’r materion a godwyd ar gael yn Adroddiad Cam 1 yr Ymgynghoriad Anstatudol.

Bydd Green GEN Cymru yn talu am adeiladu a chynnal a chadw’r rhwydwaith dosbarthu trydan newydd. Ni fydd arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio.

Fel busnes ynni adnewyddadwy yng Nghymru, credwn ein bod mewn sefyllfa unigryw i weithio gyda chymunedau, tirfeddianwyr, rhanddeiliaid a chyflenwyr yng Nghymru i greu manteision economaidd a chymunedol i Gymru. Gall ein rhwydwaith grid gwyrdd ddarparu ateb rhwydwaith rhanbarthol ar gyfer ardal Canolbarth Cymru.

Bydd cysylltiad Tywi Wysg yn mynd â phŵer o’r man lle caiff ei gynhyrchu, i’r llinell trawsyrru 400kV (400,000 folt) bresennol ger Llandyfaelog, yn sir Gaerfyrddin, lle gellir ei ddosbarthu wedyn drwy’r grid cenedlaethol, yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae newid yn yr hinsawdd yn cael effaith ddramatig ar blanhigion ac anifeiliaid – diogelu bioamrywiaeth yw un o’r prif ffactorau sy’n sbarduno symud draw oddi wrth danwydd ffosil.

Mae diwallu anghenion byd natur gyda’r seilwaith sydd ei angen arnom i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn gofyn am gydbwysedd gofalus. Bydd datblygu seilwaith mawr bob amser yn effeithio ar yr amgylchedd, ond gall hefyd fod yn gyfle i fuddsoddi mewn bioamrywiaeth a’i wella. Byddwn yn ceisio cadw unrhyw effeithiau ar fioamrywiaeth mor isel ag y gallwn yn y penderfyniadau a wnawn.

I gefnogi ein cais am ganiatâd cynllunio i’r asiantaeth Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), byddwn yn paratoi Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol a bydd canlyniadau hyn yn cael eu cyflwyno mewn Datganiad Amgylcheddol. Mae’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yn asesiad o’r cynigion ar yr amgylchedd, gan gynnwys yr effeithiau posibl ar fioamrywiaeth, ecoleg a dŵr. Bydd yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yn nodi, yn rhagweld ac yn gwerthuso effeithiau tebygol y cynigion ac yn nodi unrhyw gamau lliniaru i leihau unrhyw effeithiau ac i gyfrannu’n gadarnhaol at yr amgylchedd naturiol.

Byddwn yn cydymffurfio â chanllawiau cyfredol yng Nghymru ar sicrhau budd net i fioamrywiaeth yn yr ardal. Drwy weithio’n agos gyda’r rhanddeiliaid perthnasol, byddwn yn gweithio i sicrhau budd amgylcheddol sy’n mynd y tu hwnt i’r gofynion hyn – rydym wedi ymrwymo i sicrhau o leiaf 10% o enillion net mewn bioamrywiaeth o’i gymharu â heddiw.

Rydym wedi ymrwymo i gadw effaith amgylcheddol ein cynigion mor isel ag y gallwn.

Bydd effaith amgylcheddol y prosiect yn cael ei hasesu fel rhan o Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ar ein dyluniad terfynol ar gyfer y llinell uwchben.

Bydd hyn yn ymchwilio i effeithiau amgylcheddol posibl ein cynigion, ynghyd â sut rydym yn bwriadu lleihau neu gyfyngu ar yr effeithiau hyn. Bydd hyn yn cael ei adrodd yn y Datganiad Amgylcheddol sy’n cael ei gyflwyno fel rhan o’n cais am ganiatâd cynllunio. Byddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda chyrff arbenigol, grwpiau amgylchedd lleol, tirfeddianwyr a chymunedau lleol i drafod ein canfyddiadau ac i ymgynghori ar ein hargymhellion ynglŷn â'r ffordd orau o reoli unrhyw effeithiau posibl.

Rydym yn cydnabod nad darparu ynni glân a gwyrdd yng Nghymru yn unig sy’n bwysig; mae hefyd yn ymwneud â buddsoddi mewn cymunedau a dyfodol Cymru wledig.

Mae Bute Energy wedi ymrwymo i dalu £7,500 am bob megawat a osodir ar yr holl barciau ynni y mae’n eu datblygu drwy Gronfa Buddsoddi Cymunedol sy’n cael ei llywodraethu’n annibynnol. Bydd y gronfa o fudd nid yn unig i bobl leol sy’n byw yn agos at y safleoedd parc ynni, ond i bobl ar hyd llwybr cysylltiadau’r grid hefyd.

Bydd Green GEN Tywi Wysg yn cysylltu Parciau Ynni Nant Mithil, Aberedw a Bryn Gilwern â’r grid cenedlaethol. Os caiff y parciau ynni arfaethedig hyn eu cymeradwyo, bydd cymunedau ar hyd cysylltiad arfaethedig Tywi Wysg yn gymwys i wneud cais i Gronfa Buddsoddi Bute Energy sydd â gwerth rhagamcanol o tua 2.5 miliwn y flwyddyn.

Bydd cronfa buddsoddi cymunedol Bute Energy yn buddsoddi’n uniongyrchol yn y cymunedau y mae’r cynigion hyn yn effeithio arnynt, a bydd yn helpu i greu effaith barhaol yn lleol gan sicrhau bod cymunedau ledled Cymru yn teimlo manteision ein prosiectau ynni adnewyddadwy.

Mae Bute Energy wedi paratoi mapiau cymdeithasol ar gyfer yr ardal, wedi siarad â rhanddeiliaid lleol, ac wedi adolygu adborth o’n hymgynghoriad blaenorol i’w helpu i ddeall yn well sut gellir cefnogi cymunedau yn yr ardal.

Drwy adborth o’r rownd gyntaf o ymgynghori yn ystod gwanwyn 2023, ymgysylltu â phobl leol ac ymchwil gymdeithasol helaeth, y 5 prif her sy’n seiliedig ar leoedd a nodwyd ar hyd llwybr Tywi Wysg yw:

  1. Bywyd a Chydnerthedd Cymunedol
  2. Amaethyddiaeth
  3. Mynediad at drafnidiaeth a seilwaith trafnidiaeth
  4. Cefnogi busnesau lleol, microfusnesau a sefydliadau
  5. Unigedd ac arwahanu.

Rydym yn deall y gallai’r rheini y mae ein cynigion presennol yn effeithio arnynt, gan gynnwys perchnogion tai a thirfeddianwyr, fod â phryderon. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod unrhyw effeithiau’n cael eu lliniaru cymaint â phosibl, ac rydym yn awyddus i’r rheini yr effeithir arnynt fwyaf roi adborth manwl i ni am y cynigion. Mae ein tîm tiroedd ar gael i gwrdd â pherchnogion cartrefi a thirfeddianwyr. Os oes gennych chi fuddiant mewn tir y mae ein cynigion yn effeithio arno ac nad yw ein tîm tir wedi cysylltu â chi eto, cysylltwch â ni.

The Community Benefit fund will be available once the Energy Park comes into operation. In the meantime our team are talking with local people and organisations about the projects, groups and services they are engaged with and how we can help.

Dyma ein hail rownd o ymgynghori, ac rydym yn gofyn am adborth ar y gwaith rydym wedi’i wneud hyd yma a sut y dylem ddatblygu ein cynigion ymhellach. Nid oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi cael eu gwneud ynghylch lle bydd y seilwaith yn mynd o fewn llinelliad drafft y llwybr.

Mae’n bwysig bod pobl yn ymateb i’r ymgynghoriad hwn ac yn dweud wrthym am eu pryderon er mwyn i ni allu gweithio i leihau’r effeithiau ar gymunedau ac ar eiddo unigol.

Ar ôl i ni fireinio ein cynigion, byddwn yn gweithio gyda’r tirfeddianwyr yr effeithir arnynt i drafod sut y gallwn eu cefnogi. Byddwn yn gweithio’n galed i leihau’r effeithiau ar eiddo unigol, ond os bydd y dyluniad terfynol yn effeithio ar eich eiddo chi, byddwn yn trafod pa iawndal sydd ar gael i chi yn unol â’r ddeddfwriaeth bresennol.

Os rhoddir cydsyniad i’r prosiect, bydd y gwaith adeiladu’n dechrau yn 2026, gydag ynni glân a gwyrdd yn cael ei ddosbarthu i gartrefi a busnesau yng Nghymru erbyn 2028.

Mae Green Gen Cymru yn cynnig is-orsaf 132kV newydd i gysylltu ag is-orsaf 400kV y National Grid yn Llandyfaelog, yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd yr is-orsaf 400kV arfaethedig yn y lleoliad hwn yn eiddo i National Grid Electricity Transmission (NGET) ac yn cael ei gweithredu ganddo.

Mae angen yr is-orsaf newydd i fodloni galw cynyddol am drydan a dau gais am gysylltiad cynhyrchu yn yr ardal gan National Grid Electricity Distribution (NGED) a Green GEN Cymru.

Nid yw’r union leoliad ar gyfer is-orsaf 132kV Green Gen Cymru wedi’i gadarnhau eto, ond rhagwelir y bydd hwn yn cael ei leoli wrth ymyl yr is-orsaf 400kv arfaethedig. Bydd y cynlluniau ar gyfer is-orsaf Green GEN Cymru yn cael eu cynnwys yn y cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol ar gyfer ein prosiect cysylltiad grid Tywi Wysg.

Byddwn yn defnyddio eich adborth i adolygu’r penderfyniadau rydym wedi’u gwneud hyd yma ac i lywio ein gwaith yn y dyfodol.

Mae llinellau trawsyrru trydan 132kV newydd yn cael eu hystyried yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ddatblygwyr gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio i’r asiantaeth Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), ac yna gwneir y penderfyniadau terfynol gan Weinidogion Cymru.

Bydd adborth o’n hymgynghoriad cyhoeddus, a gan awdurdodau lleol, cynghorau cymuned a sefydliadau cenedlaethol yn ein helpu i ddatblygu dyluniad terfynol ar gyfer y prosiect. Byddwn hefyd yn cynnal rhagor o asesiadau technegol ac arolygon i lywio ein Hasesiad o’r Effaith Amgylcheddol.

Cyn i ni gyflwyno cais am ganiatâd i’r asiantaeth Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, a fydd yn digwydd o gwmpas 2025, bydd cyfnod Ymgynghori Cyn Ymgeisio (PAC) statudol, lle bydd pobl yn gallu adolygu a rhoi sylwadau ar y dyluniadau manwl a’r Datganiad Amgylcheddol drafft.

Gall llinellau uwchben foltedd uchel wneud sŵn weithiau, o dan rai amodau. Sŵn cracio neu hymian yw hyn yn aml, ac mae’n digwydd yn bennaf yn ystod tywydd gwlyb.

Gall sŵn ddigwydd hefyd o ganlyniad i’r gwynt yn chwythu heibio’r llinell neu’r peilonau. Bydd unrhyw effeithiau sŵn posibl yn cael eu hystyried fel rhan o’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.

Byddwn bob amser yn sicrhau bod dyluniad y llinell uwchben a’r is-orsaf yn ystyried unrhyw effeithiau ar y gymuned leol yn ofalus.

Rydym wedi ymrwymo i darfu cyn lleied â phosibl ar y rheini sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd y mae ein cynigion yn effeithio arnynt. Byddwn yn cael cyngor gan randdeiliaid technegol ac yn ystyried effaith y prosiect ar ffyrdd lleol fel rhan o asesiad traffig a thrafnidiaeth, sy’n un o ofynion y broses y byddwn yn ei dilyn i gyflwyno cais cynllunio.

Bydd hyn yn cynnwys sut rydym yn bwriadu rheoli traffig adeiladu, gan gynnwys unrhyw effeithiau posibl. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynnal cysylltedd rhwng trefi a phentrefi cyfagos, a byddwn yn sicrhau nad yw ein gwaith yn ei gwneud yn anodd i’r rheini sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal.

Mae Meysydd Trydanol a Magnetig yn cael eu cynhyrchu pan fydd trydan yn cael ei ddefnyddio neu ei drosglwyddo. Mae gwifrau, offer a chyflenwad trydan cartrefi i gyd yn ffynonellau. Felly, maen nhw o’n cwmpas drwy’r amser yn y byd modern. Mae llinellau uwchben yn ffynhonnell, ond dim ond un o blith llawer. Y cysylltiad mwyaf posibl o dan y llinell uwchben yw 38.9 microtesla, sy’n debyg i’r hyn y byddech yn ei ddisgwyl wrth ddefnyddio sychwr gwallt neu gerdded yn agos at ficrodon pan fydd yn coginio.

Mae terfynau ar waith i’n diogelu ni i gyd rhag dod i gysylltiad ag EMF. Mae'r terfynau hyn wedi'u seilio ar adolygiadau gofalus o'r wyddoniaeth gan arbenigwyr annibynnol, sy'n argymell lefelau diogel o gysylltiad i'r cyhoedd. Terfyn y cysylltiad ar gyfer aelodau'r cyhoedd yw 360 microtesla, felly hyd yn oed os ydych chi'n sefyll yn uniongyrchol o dan y llinell uwchben, dim ond ffracsiwn bach o'r terfyn yw'r lefelau.

Ar ôl degawdau lawer o ymchwil, a gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd yn ymchwilio i'r mater, nid oes unrhyw effeithiau iechyd wedi’u sefydlu o dan y terfynau cysylltiad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn < ahref="http://www.emfs.info" target="_blank">www.emfs.info.

Gallwch gysylltu â thîm y prosiect fel a ganlyn:

Rhif ffôn: 0800 3777 339 (yn ystod oriau swyddfa 9 tan 5/peiriant ateb y tu allan i oriau)
E-bost: info@greengentowyusk.com.