Neidio i'r cynnwys

Gweithredu nawr i helpu darparu ynni glân, gwyrdd i'n cartrefi a'n busnesau yng Nghymru

Green GEN Tywi Wysg

Mae Green GEN Cymru (Green Generation Energy Networks Cymru) yn gweithredu nawr, i helpu i ddarparu ynni gwyrdd glân i’n cartrefi a’n busnesau drwy ddatblygu’r rhwydwaith ynni yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng ynni a’r argyfwng hinsawdd ac yn sicrhau y bydd cymunedau lleol yn gallu byw bywydau trydan modern gyda llai o ddibyniaeth ar danwydd ffosil. 

Mae Green GEN Cymru, sy’n rhan o grŵp Bute Energy, wedi’i leoli yng Nghymru ac mae ganddo agwedd unigryw Gymreig. Bydd ein rhwydwaith yn cael ei gynllunio yng Nghymru, i Gymru, a byddwn yn ei ddarparu heb ddefnyddio unrhyw arian cyhoeddus.

Ein cynigion ar gyfer Green GEN Tywi Wysg

Bydd Green GEN Tywi Wysg yn cysylltu Parc Ynni Nant Mithil Bute Energy, a fydd yn cynhyrchu tua 237MW (megawat) o ynni gwyrdd glân yn ardal Fforest Maesyfed, â’r grid cenedlaethol. Bydd yn dod ag ynni gwyrdd glân i’r cartrefi a’r busnesau sydd ei angen. Yn bwysig iawn, bydd prosiectau ynni gwyrdd eraill hefyd yn gallu cysylltu, gan leihau faint o seilwaith ychwanegol fydd ei angen yn y dyfodol.

Bydd y grid hwn nid yn unig yn cludo ynni gwyrdd ledled Cymru, ond mae ganddo hefyd y potensial i gefnogi technolegau fel 5G a allai helpu ffermwyr, ysgolion a busnesau i fod ar flaen y gad ym maes technoleg tra’n byw mewn ardal wledig. Bydd y prosiect yn cael effaith barhaol a chadarnhaol ar bobl Cymru.

Ein hymgynghoriad cyhoeddus

Mae ein hymgynghoriad, a gynhaliwyd rhwng dydd Llun 06 Mawrth 2023 a dydd Gwener 28 Ebrill 2023, bellach wedi cau.

Byddwn yn adolygu ac yn ystyried yn ofalus yr holl adborth a gawsom wrth i ni barhau i ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer Green GEN Tywi Wysg.

Byddwn yn cyhoeddi adroddiad adborth ar yr ymgynghoriad gydag ymatebion i'r holl faterion a godwyd a sut rydym wedi ystyried y rhain.

Bydd yr holl adborth a dderbynnir yn ystod yr ymgynghoriad hwn, ynghyd â gwaith amgylcheddol a thechnegol manwl parhaus, yn helpu i cafarwyddo ein haliniad manwl ar gyfer y prosiect. Byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus pellach ar yr aliniad hwn yn 2024.

Cronfa Budd Cymunedol

Mae Bute Energy yn sefydlu Cronfa Budd Cymunedol a fydd yn buddsoddi miliynau o bunnoedd bob blwyddyn mewn cymunedau lleol. Daw’r cyllid gan Barciau Ynni Bute Energy sy’n cysylltu â Green GEN Tywi Wysg. Yn y dull unigryw hwn bob blwyddyn bydd Bute Energy yn unig yn talu £7,500 y MW o gapasiti wedi’i osod yn y gronfa, a fydd yn cael ei rannu rhwng y cymunedau sydd agosaf at y Parciau Ynni a’r rheini sydd ar hyd llwybrau’r grid.

Bydd tîm Budd Cymunedol Bute Energy yn siarad â phobl a sefydliadau lleol am y prosiectau, y grwpiau a’r gwasanaethau maen nhw’n ymwneud â nhw a sut gallwn ni helpu. Rhowch wybod i ni pwy sy’n gwneud gwaith gwych yn lle rydych chi’n byw er mwyn i ni allu siarad â nhw. Rydyn ni eisiau bod yn gymdogion da fel rhan o gymuned ffyniannus.

Darganfod mwy a chymryd rhan: