Skip to content

ALINIAD LLWYBR DRAFFT TYWI WYSG – HYDREF 2026

ARCHWILIWCH Y MAP RHYNGWEITHIOL

Defnyddiwch y map rhyngweithiol isod i archwilio'r Aliniad Llwybr Drafft – Hydref 2026 a'r newidiadau arfaethedig i Brosiect Cysylltiad Grid Tywi Wysg. Wrth i chi adolygu'r cynigion, rydym yn eich annog i rannu eich barn drwy'r ffurflen adborth ddigidol, drwy e-bost, drwy lythyr, neu'n bersonol yn un o'n digwyddiadau ymgynghori. Bydd eich sylwadau, eich gwybodaeth leol a'ch awgrymiadau yn helpu i lywio datblygiad parhaus y Prosiect.

Defnyddio'r map

> Chwilio yn ôl lleoliad

Cliciwch ar yr eicon chwilio a nodwch eich cod post i ddod o hyd i'ch lleoliad ar y map.

> Cymharu aliniadau llwybr

Dewiswch Aliniad y Llwybr a Ffefrir yn Flaenorol – Gwanwyn 2024 ac Aliniad Llwybr Drafft – Hydref 2026 i gymharu'r ddau aliniad a gweld y newidiadau arfaethedig.

> Llywio'r llwybr

Defnyddiwch y ddewislen gwymplen i symud rhwng Adrannau 1 i 5 ac archwilio gwahanol rannau o'r llwybr arfaethedig.

> Gweld gwybodaeth am y seilwaith

Cliciwch ar leoliadau unigol y polion pren a'r monopolau i weld eu rhif cyfeirio unigryw.

> Darparu adborth sy'n ymwneud â lleoliad penodol

Wrth gyflwyno sylwadau, cyfeiriwch at rifau cyfeirio'r polion pren neu'r monopolau perthnasol lle bo hynny'n bosibl. Mae hyn yn ein helpu i nodi'r lleoliadau rydych yn cyfeirio atynt yn gywir ac yn sicrhau y gellir ystyried eich adborth yn llawn yn y cyd-destun priodol.



YN BAROD I RANNU EICH BARN?

Llenwch y ffurflen adborth ar-lein

Ymgynghoriadau cymunedol – Hydref 2026

Mae eich barn yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth lunio’r Prosiect

Ymunwch â ni yn un o’n digwyddiadau ymgynghori cymunedol i gael rhagor o wybodaeth am y cynigion, cwrdd â thîm y Prosiect, gofyn cwestiynau a rhannu eich adborth. Byddwch yn gallu gweld deunyddiau arddangos, mapiau llwybr manwl a model 3D o’r llwybr a’r seilwaith arfaethedig, gan roi cyfle i chi archwilio’r cynigion yn fanylach a gweld sut y gallai’r strwythurau monopôl arfaethedig ymddangos o fewn y dirwedd leol.

Dewch i gwrdd â’r tîm mewn digwyddiad yn eich ardal chi.

Lleoliad Dyddiad ac amser
Pafiliwn Maldwyn, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt, LD2 3SY Dydd Mercher 14 Hydref
2:00yp i 7:00yh
Clwb Rygbi Llanymddyfri, Church Bank, Llanymddyfri, SA20 0BA Dydd Iau 15 Hydref
2:00yp i 7:00yh
Canolfan Gymunedol Pen-y-bont a’r Cylch, ger Llandrindod, LD1 5UA Dydd Gwener 16 Hydref
2:00yp i 7:00yh
Neuadd Gymunedol Llanarthne, Llanarthne, Caerfyrddin, SA32 8JD Dydd Mercher 21 Hydref
12:30yp i 5:30yp
Neuadd Ddinesig Llandeilo Fawr, 17 Crescent Road, Llandeilo, SA19 6HW Dydd Iau 22 Hydref
9:30yb i 2:30yp
Neuadd Gymunedol Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin, SA17 5PA Dydd Sadwrn 24 Hydref
11:00yb i 4:00yp

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Diolch am eich amynedd parhaus a'ch ymgysylltiad.

Os hoffech dderbyn diweddariadau am y Prosiect, os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cynigion, neu os hoffech drafod y Prosiect ymhellach, cysylltwch â thîm y Prosiect neu cofrestrwch eich manylion gyda ni:

E-bost: info@greengentowyusk.com

Rhif ffôn am ddim: 0800 3777 339

I ddychwelyd i wefan Prosiect Cysylltiad Tywi Wysg, cliciwch yma.