Neidio i'r cynnwys

Gweithio gyda thirfeddianwyr a meddianwyr

Mae Green GEN Cymru wedi ymrwymo i feithrin perthnasoedd gwaith cryf gyda thirfeddianwyr a meddianwyr wrth i ni ddatblygu ein cynigion ar gyfer Green GEN Tywi Wysg.

Byddwn yn gweithio gyda chi wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau, ac rydyn ni’n eich annog chi a/neu eich cynrychiolwyr i gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau. 

Cyfeirnodau tir

Mae angen i ni wybod pwy sydd â buddiant cyfreithiol yn y tir o fewn ac o amgylch y llwybr arfaethedig ar gyfer Green GEN Tywi Wysg. Trwy defnyddio Data’r Gofrestrfa Dir sydd ar gael yn gyhoeddus, rydym wedi nodi partïon â diddordeb y credwn y gallai’r prosiect effeithio arnynt. Bydd ein hasiantau tir penodedig, Bruton Knowles, yn cysylltu â thirfeddianwyr unigol er mwyn sicrhau bod gennym gofnodion cywir a chyfredol, a bod y wybodaeth yn adlewyrchu galwedigaeth bresennol y tir.

Mynediad ar gyfer arolygon

Wrth gynllunio a datblygu ein prosiectau, mae angen i ni gynnal arolygon er mwyn helpu i lywio dyluniad y cynllun, yn ogystal â’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.

Mae angen i ni arolygu ardal eang er mwyn sicrhau ein bod yn deall yr amgylchedd lleol, sut gallai ein gwaith effeithio arno ac ystyried unrhyw fesurau lliniaru sy’n ofynnol. Mae’r arolygon hyn yn cynnwys daeareg, ecoleg a defnydd tir. Os byddwn yn gofyn am gael cynnal arolygon ar eich tir, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y bydd y tir yn rhan o’r llwybr nac y bydd seilwaith yn cael ei osod arno. Bydd canlyniadau’r arolygon yn helpu i lywio penderfyniadau ar lwybro a lleoliad prosiect Green GEN Tywi Wysg.

Bydd canfyddiadau’r arolygon hyn yn cael eu cynnwys fel rhan o’n Hasesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA) a byddant yn ein helpu i ddatblygu aliniad manwl ar gyfer llwybr y llinell uwchben, gan gynnwys lleoliadau ar gyfer peilonau, llwybrau mynediad ac ardaloedd gwaith. Byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar yr aliniad llwybr arfaethedig yn ystod 2024.

Byddwn yn gweithio’n agos gyda thirfeddianwyr a meddianwyr er mwyn cytuno ar fynediad fel bod arolygon yn cael eu cynnal - lle bynnag y bo modd - ar adegau priodol gyda chyn lleied â phosibl o anghyfleustra.

Ni fyddai galluogi Green GEN Cymru i gael mynediad at dir yn atal perchnogion tir rhag cyflwyno sylwadau am brosiect Green GEN Tywi Wysg ar unrhyw adeg, ac ni fyddai ein galluogi ni i gael mynediad at dir ar gyfer arolygon yn effeithio o gwbl ar unrhyw hawliau i wneud sylwadau ar ein cynigion.

Bydd Bruton Knowles, ein hasiantau tir, yn parhau i geisio cael cytundebau gwirfoddol gyda thirfeddianwyr a meddianwyr ar gyfer mynediad, ond os na ellir gwneud hynny efallai y bydd angen i ni geisio cael pwerau cyfreithiol perthnasol.

Cwestiynau cyffredin

I gael rhagor o wybodaeth am ein dull o weithio gyda thirfeddianwyr a deiliaid tir ar gyfer arolygon amgylcheddol a pheirianyddol, mae dogfennau ategol ar gael yn y llyfrgell dogfennau isod.

Am rhagor o wybodaeth am brosiect Green GEN Tywi Wysg, ewch i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin.

Arolygon amgylcheddol a pheirianneg (PDF, 0.6MB)

Cysylltwch â ni

Gallwch chi gysylltu â ni drwy ein tîm Tiroedd drwy

Rhadffôn: 02920 490310 neu dros e-bost at greengentowyusk@brutonknowles.co.uk

Os oes gennych chi ymholiad cyffredinol am y prosiect, cysylltwch â thîm cysylltiadau cymunedol Green Gen Tywi Wysg.